Syria: 'Na i weithredu milwrol'

  • Cyhoeddwyd
Roedd protest yn gynharach yr wythnos hon yn San Steffan
Disgrifiad o’r llun,
Roedd protest yn gynharach yr wythnos hon yn San Steffan

Mae disgwyl i bobl sy'n gwrthwynebu gweithredu milwrol yn Syria ymgynnull yng Nghaerdydd a lleoedd eraill yn y DU ddydd Sadwrn i leisio'u barn.

Fe fydd protest yn Llundain am 12pm, ac un yng Nghaerdydd am 2pm wedi ei threfnu gan CND Cymru a mudiad o'r enw 'Clymblaid Caerdydd i atal y rhyfel'.

Ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod angen "ymateb cadarn" i'r defnydd honedig o arfau cemegol yn Syria er gwaetha'r ffaith iddo golli pleidlais yn y Senedd yn Llundain nos Iau.

Pleidleisiodd 285 yn erbyn yr egwyddor o weithredu milwrol tra bod 272 yn cefnogi.

Roedd Arweinydd Llafur Ed Miliband wedi dweud na ddylai perthynas Prydain â'r Unol Daleithiau olygu gwneud yn union fel yr oedd Arlywydd America yn ei ddweud.

Dywedodd Mr Cameron ei fod yn derbyn penderfyniad y Senedd.

'Cynhadledd heddwch'

Cyn y brotest ddydd Sadwrn dywedodd Jill Evans, ASE Plaid Cymru: "Rydym wedi gweld drwy gydol hanes bod ymyrraeth filwrol yn y Dwyrain Canol ond yn achosi mwy o broblemau.

"Dylai pawb condemnio'r ymosodiadau cemegol yma, ond dydi lladd mwy o bobl yn sicr ddim yn mynd i ddatrys unrhyw broblemau.

"Nid yw trais yn datrys y problemau sy'n deillio o drais, felly dylem edrych ar ffyrdd o ddod â'r ddwy ochr at ei gilydd mewn cynhadledd heddwch".

Yn ôl cadeirydd dros dro CND Cymru, Dr. John Cox: "Tra'n condemnio'r ymosodiadau gydag arfau cemegol, nid ymosodiadau milwrol yw'r ateb.

"Rydym yn erfyn ar y llywodraeth a'r gymuned ryngwladol i ddwysau'r ymdrechion diplomataidd"

Arfau cemegol

Mae Llywodraeth Syria wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiadau sydd wedi lladd cannoedd.

Daeth canlyniad y bleidlais yn y Senedd nos Iau fel sioc a dywedodd Golygydd Gwleidyddol y BBC Nick Robinson fod Mr Cameron bellach wedi colli rheolaeth ar ei bolisi tramor.

Dywedodd Mr Robinson hefyd y byddai canlyniad nos Iau yn effeithio ar statws y Prif Weinidog yn rhyngwladol a bod rhai pobl o blaid perthynas agos Prydain â'r Unol Daleithiau yn poeni am y berthynas honno.

Roedd Llafur yn dadlau y dylid disgwyl nes i'r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi adroddiad ar Syria, gan ddweud fod angen prawf mai llywodraeth Bashar al-Assad oedd yn gyfrifol am ymosodiadau cemegol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Collodd llywodraeth Mr Cameron y bleidlais wrth i 39 AS o'r Glymblaid bleidleisio yn ei erbyn, gan gynnwys y Ceidwadwr David Davies sy'n cynrychioli Mynwy a'r Democrat Rhyddfrydol Roger Williams sy'n cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed.