Wrecsam 0-2 Caer

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Wrecsam 0-2 Caer

Mae dechrau siomedig Wrecsam i'r tymor yn dechrau troi'n ddechrau trychinebus.

Fe fydd colli gêm arall yn sicr yn siom i'r cefnogwyr. Bydd colli'r gêm ddarbi gyntaf yn erbyn eu cymdogion o Gaer - a hynny ar eu tomen eu hunain - yn dyblu'r siom.

Fe ddaeth torf o dros 6,000 i weld yr ornest, ond yr 800 a deithiodd o Gaer a gafodd eu plesio.

Ar ddechrau'r gêm, Wrecsam gafodd mwyafrif y meddiant ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi llai na phum munud. Jordan Laidler yn croesi a Paul Linwood yn y lle iawn i benio i'r rhwyd.

Dyblwyd y fantais wedi 16 munud gan adael y cefnogwyr yn gweld dwbwl wrth i efeilliaid Caer gyfuno - Nathan Turner yn creu a'i frawd Lewis yn rhwydo.

Mae Caer wedi cael dechrau gwaeth na Wrecsam y tymor hwn gan golli bob un o'u pum gêm gyntaf yn Uwchgynghrair Skrill.

Aeth pethau'n waeth i Wrecsam cyn yr egwyl pan fu'n rhaid i Mark Creighton adael y maes gydag anaf gyda Junior Ntame'n dod ymlaen yn ei le.

Cerdyn coch

Ychydig iawn o fygythiad ddaeth gan Wrecsam yn yr ail gyfnod hefyd.

Heblaw un cynnig gan Kevin Thornton a gafodd ei arbed yn hawdd gan John Danby, doedd Wrecsam ddim yn edrych fel cael un gôl heb son am dair.

Ond yna fe ddaeth llygedyn o obaith yn y deng munud olaf pan welodd Ashley Williams y cerdyn coch i Gaer yn dilyn trosedd wael ar Joe Clarke.

Roedd Wrecsam wedi dechrau pwyso yn hwyr yn y gêm, ac fe ddaeth y cyfleoedd, ond roedd Robert Ogleby ac Andy Bishop yn euog o gynigion gwan.

Mae'r golled yn gadael Wrecsam gyda phum pwynt o'u chwe gêm gyntaf, ac fe fydd angen i dîm Andy Morrell ddechrau ennill gemau os ydyn nhw am ail-adrodd campau'r tymor diwethaf.