Scunthorpe 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Scunthorpe 1-1 Casnewydd

Mae Casnewydd wedi cael dechrau da i'r tymor, ond fe gafon nhw'n dechrau gwaethaf posib i'r gêm yn Scunthorpe.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi llai na dau funud o chwarae wrth i Sam Winnall benio heibio Lenny Pidgeley i'r rhwyd.

Doedd Justin Edinburgh ddim yn siwr sut bod ei dîm yn dal ar ei hôl hi ar yr egwyl gan i Gasnewydd reoli gweddill yr hanner cyntaf.

Gyda 60% o'r meddiant, yr Alltudion greodd y cyfleoedd i gyd hefyd gyda Robbie Willmott yn enwedig yn anlwcus i weld cynigion yn cael eu harbed neu'n methu'r nod o drwch blewyn.

Parhau wnaeth y pwysau gan yr ymwelwyr, ac fe dalodd hynny wedi 62 wrth i Andrew Hughes sgorio i Gasnewydd i unioni'r sgôr.

Er y bydd Casnewydd yn siomedig na wnaethon nhw fanteisio ar eu cyfleoedd, fe fydd Justin Edinburgh hefyd yn sylweddoli bod hwn yn bwynt gwerthfawr oddi cartref arall yn nhymor cyntaf y tîm yn ôl yn y gynghrair bêl-droed.