Gwrthdrawiad: Dyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 49 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhontyclun yn oriau man fore Sul.

Cafodd dyn oedd yn cerdded ar Ffordd Llantrisant, yr A422, ei daro gan fws mini dros y ffordd i'r orsaf dân yno am chwarter i un y bore.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau difrifol, ond bu farw o'i anafiadau yn ddiweddarach.

Mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.

Hoffai Heddlu'r De siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y bws mini gwyn yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.