Cymorth cyntaf: Apêl am wirfoddolwyr
- Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid ambiwlans yn apelio am fwy o wirfoddolwyr i gael eu hyfforddi er mwyn ymateb i achosion brys ym Mhowys.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod angen mwy o Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol (YCC) ar draws y sir.
Ar hyn o bryd mae dros 100 o dimau YCC yng Nghymru.
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael hyfforddiant i ddarparu cymorth cyntaf sylfaenol, therapi ocsigen, adfywio cardiopulmonari a'r defnydd o ddiffibriliwr.
Mae angen timau YCC yn Aberhonddu, Ystradgynlais, Crughywel, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llanfyllin, Llanidloes, Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt.
Dywedodd Steve Roberts, swyddog ymatebwyr cyntaf Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae llawer o'n gwirfoddolwyr wedi profi treialon bywyd fel gweld rhywun agos yn diodde' trawiad y galon, ac wedi defnyddio hynny i gymryd golwg bositif er mwyn cynorthwyo teulu, ffrindiau a chymdogion.
"Gorau po gyntaf y mae claf sy'n wynebu sefyllfa sy'n bygwth eu bywyd yn cael cymorth arbenigol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae ein YCC yn barod i gefnogi.
"Fe allwch chi wneud gwahaniaeth drwy gyflawni ychydig o dasgau syml, ac fe allwn ni ddysgu'r rheini i chi.
"Os ydych chi'n falch o'r gymuned yr ydych yn byw ynddi, gall bod yn YCC fod yn gymorth a chadw calon eich cymuned yn curo i'r dyfodol."
Dywedodd Elwyn Price-Morris, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, bod YCC yn chwarae rôl bwysig dros ben ochr yn ochr â staff ambiwlans wrth sicrhau bod cleifion yn cael cymorth priodol yn gyflym.
Mae gwahoddiad i bobl sydd â diddordeb bod yn YCC i fynd i wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, neu e-bostio am becyn ymgeisio.