Tân mewn hen glwb yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae pedair injan dân wedi bod yn brwydro tân yn hen glwb TJs yng Nghasnewydd.

Fe gafodd criwiau o Gwmbrân, Dyffryn, Maendy a Malpas ei galw i'r adeilad tri llawr ychydig cyn 4:00am fore Sul.

Nid yw'r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio.

Roedd 24 o ddiffoddwyr ar y safle gan gynnwys rhai oedd yn defnyddio offer anadlu arbennig.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn credu bod y tân wedi dechrau o bentwr bach o sbwriel, ond maen nhw hefyd yn credu bod y tân wedi cael ei gynnau'n fwriadol.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y tân.