Arolwg: 'Newidiadau addysg yn negyddol'
- Cyhoeddwyd

Mae bron dri chwarter o athrawon a phrifathrawon Cymru yn teimlo bod newidiadau i'r system addysg wedi cael effaith negyddol ar ysbryd a chymhelliad, yn ôl arolwg gan bapur newydd.
Yn ôl arolwg atodiad addysg y Times (TES) mae 75% o brifathrawon a 73.2% o athrawon yn teimlo bod cyflwyno mesurau megis bandio wedi lleihau morâl.
Yr un oedd y teimlad am y profion darllen a mathemateg a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diweddar.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod addasu i newid yn anodd ond eu bod yn darparu'r gefnogaeth i athrawon er mwyn codi safonau.
'Diystyr'
Bandio ysgolion oedd yr elfen a gafodd ei beirniadu fwyaf gan athrawon. Yn ôl yr arolwg roedd 75.4% o brifathrawon yn credu nad oedd cyflwyno'r system wedi helpu wrth geisio codi safonau mewn ysgolion.
Dywedodd un prifathro wrth y TES: "Mae'n waeth na gwastraff amser.
"Mae'r data sy'n cael ei ddefnyddio yn ddiystyr, a dyw'r canlyniad yn sicr ddim yn adlewyrchu safon yr addysg o fewn yr ysgol."
Roedd arwydd o bryder hefyd am y gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion gan awdurdodau lleol.
Er bod dros hanner y rhai a holwyd yn fodlon neu'n hapus gyda'r gefnogaeth, roedd dros chwarter (25.1%) yn dweud bod y gefnogaeth yn wan, a dros 10% yn dweud nad oedd ganddyn nhw berthynas gyda'r awdurdod o gwbl.
'Bandio'n ganolog'
Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Gall addasu i newidiadau brofi'n anodd ymhob maes cyflogaeth a dyw addysg ddim yn eithriad.
"Rydym yn deall bod cyflwyno unrhyw broses newydd i'r system addysg yn mynd i gymryd amser i sefydlu'i hun. Ond mae bandio yn parhau i fod yn ganolog i'n hagenda i wella ysgolion.
"Fel rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethol, mae'n rhoi darlun clir i ni ac i rieni o sut y mae ein hysgolion yn perfformio. Rydym yn credu ein bod, drwy'r broses bandio, wedi cyflwyno proses adeiladol o werthuso sy'n arwain at gefnogaeth wedi'i thargedu i wella perfformiad yn ein hysgolion.
"Rydym wedi cyflwyno pecyn o gefnogaeth i athrawon sy'n cynnwys cefnogaeth fentora, mynediad at gymhwyster Meistr Ymarfer Addysgol, adnoddau ar-lein ac astudiaethau o enghreifftiau o ymarfer gorau.
"Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a chefnogi athrawon i sicrhau bod dysgwyr ar draws Cymru yn cyrraedd y safonau uchaf."
Straeon perthnasol
- 22 Chwefror 2013
- 16 Ionawr 2013
- 18 Rhagfyr 2012
- 30 Mehefin 2013
- 26 Mehefin 2013