West Brom 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
West Brom 0-2 Abertawe
Mae llwyddiant Abertawe yn Ewrop i raddau wedi cuddio'u methiannau yn yr Uwchgynghrair y tymor hwn.
Er bod eu dwy gêm gyntaf yn rhai anodd, fyddai rhywun ddim wedi disgwyl gweld tîm Michael Laudrup ar waelod y tabl a heb yr un pwynt wedi'r ddwy gêm agoriadol.
Yn Yr Hawthorns ddydd Sul, fe gawson nhw'u pwyntiau cyntaf, a dangos nad oedd llawer o le i boeni am weddill y tymor chwaith.
Roedd Abertawe yn ôl ar eu gorau o'r dechrau bron, ac yn rheoli'r meddiant fel y mae ffyddloniaid y Liberty wedi arfer gweld.
Daeth y wobr am hynny wedi 22 munud. Pablo Hernandez greodd y cyfle, ond fe ddaeth y gôl o ffynhonnell llai disgwyliadwy wrth i Ben Davies daro ergyd troed chwith i'r rhwyd.
Roedd hi'n gêm gorfforol gyda'r dyfarnwr yn dangos saith cerdyn melyn, ond Abertawe gafodd mwyafrif y meddiant a llawer mwy o ergydion at y gôl.
Er hynny roedd rhaid aros tan saith munud cyn y diwedd am gôl arall, a'r tro yma Pablo Hernandez oedd y sgoriwr yn dilyn gwaith da gan Michu.
Gyda'r ffenest drosglwyddo yn cau nos Lun, fe fydd Michael Laudrup yn awyddus iawn i gadw'r garfan yma gyda'i gilydd gyda sibrydion y bydd cynigion hwyr am Ashley Williams a Michu.
Os fydd yn llwyddo i wneud hynny, mae'r dyfodol yn ymddangos yn fwy disglair na'r pythefnos cyntaf yn y tymor hyd yma.