Cynllun prentisiaethau newydd TGCh
- Cyhoeddwyd

Mae un o gyrff cyhoeddus mwyaf Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i gynnig prentisiaethau mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd yn cynnig dwy flynedd o brofiad gwaith cyflogedig i fyfyrwyr chweched dosbarth a cholegau i weithio gyda staff proffesiynnol yn y maes, yn eu swyddfeydd ym Mangor.
Fe fydd y bobl sy'n rhan o'r cynllun - o'r enw Cyfoeth - hefyd yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant.
I ddechrau bydd CNC yn recriwtio pedwar o brentisiaid.
Mae'r cwrs ar eu cyfer wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda chwmni Microsoft, ac fe fyddan nhw'n cynghori ar ardystiadau'r diwydiant a chynnwys y cwrs, ynghyd â chefnogaeth drwy eu rhaglen academi TGCh.
Bydd hynny'n cynnwys deunydd ar gyfer y cwrs, arholiadau ac adnoddau eraill.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Emyr Roberts: "Gall gadael byd addysg i chwilio am waith fod yn brofiad brawychus i fyfyrwyr, ond yr hyn yr ydym yn ei gynnig yw'r cam cyntaf i gyflogaeth a dewis gwahanol i brifysgol.
"Nid yn unig y bydd y cynllun yma'n cynnig cyfle i bobl ifanc i ddysgu proffesiwn, ond bydd hefyd yn cyfrannu tuag at gael gweithlu mwy galluog o safbwynt sgiliau i Gymru."
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2013
- 12 Gorffennaf 2013
- 13 Mehefin 2013