Marwolaeth ar ôl disgyn o glogwyn yn Southerndown

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi marwolaeth dyn 27 oed yn Southerndown ger Pen-y-bont ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am fod dyn a dynes wedi disgyn o glogwyn ychydig wedi 4.00yh.

Mae dynes 25 oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle mae meddygon wedi dweud ei bod hi mewn cyflwr sefydlog.

Mae ymholiadau yn parhau ond nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.

Mae'r teulu a'r crwner wedi cael gwybod.