Arwr Tawel 2013
- Cyhoeddwyd

Nodyn pwysig: Caeodd y rhestr enwebiadau am 23:59 BST ar nos Fercher, Hydref 16, 2013
Mae Gwobr Arwr Tawel y BBC yn dathlu pobl sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon, boed trwy ysbrydoli eraill i gymryd rhan ar lefel gymunedol neu gynnig anogaeth heb ddisgwyl elwa'n bersonol.
Gallai fod yn rhywun sydd wedi helpu dod o hyd i un o bencampwyr y dyfodol, neu sy'n cynnal clwb lleol.
Mae'n rhaid i'r bobl sy'n cael eu henwebu fod dros 16 oed a heb fod yn derbyn unrhyw dâl am eu hamser.
Mae'r gwobrau wedi eu rhoi yn flynyddol ers 2003.
Bydd Arwr Tawel Cymru yn cael ei ddewis gan banel o arbenigwyr a bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.
Fe fydd e neu hi wedyn yn cystadlu yn erbyn enillwyr o'r Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr - gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar raglen BBC Sports Personality of the Year ym mis Rhagfyr.
Arthur Wood, un o hoelion wyth Clwb Reiffl Abertawe oedd enillydd Arwr Tawel BBC Cymru Wales yn 2012.
Enillydd 2011 oedd Gareth Wyn Hughes am ei waith gydag Academi Golff Y Rhondda.
Caeodd y rhestr enwebiadau am 23:59 BST ar nos Fercher, Hydref 16, 2013