Glyn Rhonwy: O blaid cynllun hydro £100m
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol i godi pwerdy hydro gwerth £100 miliwn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei gymeradwyo.
Pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd bleidleisiodd 12-1 o blaid y cynllun yn hen chwarel Glyn Rhonwy ger Llanberis ddydd Llun.
Roedd gweiddi a phrotestio yn yr oriel gyhoeddus.
Tra oedd Cymdeithas Eryri wedi dweud eu bod yn poeni am yr effaith ar fywyd gwyllt, diwylliant a threftadaeth, dywedodd y datblygwr, Quarry Battery Company , y byddai'n ceisio lliniaru'r effeithiau.
Argae
Mewn egwyddor mae'r cynllun yn debyg i bwerdy First Hydro yn Dinorwig, sydd hefyd ger Llanberis.
Mae dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i gronfa pan mae trydan yn rhad, ac yna'n cael ei rhyddhau i lawr trwy dyrbin er mwyn cynhyrchu trydan pan y mae'n ddrutach i'w brynu gan gwmnïau cyflenwi.
Gan fod y cynllun yn golygu codi argae yn y gronfa uwchlaw, mae Cymdeithas Eryri wedi dweud eu bod yn poeni am effaith y gwaith adeiladu.
Roedd y mudiad hefyd yn bryderus am sut y bydd y cynllun yn cysylltu â'r grid cenedlaethol ac yn pryderu y bydd rhaid codi peilonau i gludo'r trydan.
'Ystyriaeth'
Roedd Cyngor Mynydda Prydain hefyd yn teimlo bod "maint y datblygiad yn golygu bod angen mwy o ystyriaeth".
Mae'r tir dan sylw wedi bod yn destun sawl cais cynllunio yn y gorffennol, gan gynnwys un am ganolfan sgïo dan do a chanolfan beicio mynydd.
Dywedodd Dave Holmes, rheolwr gyfarwyddwr Quarry Battery Company, fod y cynllun yn "gweddu" i'r ardal o'i gwmpas.
Straeon perthnasol
- 3 Ionawr 2013
- 7 Rhagfyr 2012
- 29 Mehefin 2012