Caerdydd ac Abertawe yn arwyddo
- Cyhoeddwyd

Peter Odemwingie
Mae Caerdydd wedi arwyddo'r blaenwr Peter Odemwingie o West Brom ar gytundeb dwy flynedd sy'n werth £2.25m.
Felly mae gan y rheolwr Malky Mackay y dyn 32 oed hwn o Nigeria, yn ogystal â'r blaenwyr Fraizer Campbell, Nicky Maynard, Rudy Gestede, Joe Mason ac Andreas Cornelius at ei wasanaeth bellach, er bod Cornelius, a brynwyd am £7.5m yn ystod yr haf, wedi ei anafu ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser mae Abertawe wedi arwyddo'r blaenwr 22 oed Alvaro Vazquez o glwb Getafe yn Sbaen, ar fenthyg am y tymor gyda'r bwriad o'i brynu wedi hynny.
Roedd yn rhan annatod o dîm dan -21 Sbaen a enillodd Bencampwriaeth Ewrop yn yr haf.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Alvaro Vazquez
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2013
- Cyhoeddwyd31 Awst 2013