Anelu'n uchel
- Cyhoeddwyd

Bydd y genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrofod yn cael eu hyfforddi yn ne Cymru ar ôl i gwmni rhyngwladol lansio busnes newydd yn y DU.
EADS yw perchnogion cwmni Airbus; y mae eu ffatri'n cyflogi 6,500 ym Mrychdyn, Sir y Fflint a chwmni Cassidian sy'n cyflogi 1,000 mewn ffatri yng Nghasnewydd.
Mae EADS yn dechrau cwmni o'r enw Testia yng Nghasnewydd gyda buddsoddiad o £1.4m, gyda'r bwriad o hyfforddi 1,400 o fyfyrwyr y flwyddyn o fewn chwe blynedd.
Y nod yw cwrdd â'r galw am anghenion y diwydiant awyrennau byd-eang.
Ffyrdd a rheilffyrdd
Dywedodd Testia ei fod wedi dewis Casnewydd oherwydd ei gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da ac oherwydd bod cynifer o gwmnïau awyrofod yng Nghymru yn barod.
Mae hefyd yn disgwyl hyfforddi peirianwyr o gannoedd o gyflenwyr a chwsmeriaid gan gynnwys GE yn Nantgarw, Rolls Royce, Grŵp peirianneg byd-eang GKN, Airbus ac Astrium.
Mae rheoliadau yn mynnu bod rhaid i gwmnïau awyrofod mawr anfon eu staff i sefydliadau allanol ar gyfer hyfforddiant ar sut i archwilio offer a pheiriannau.
Dywedodd prif weithredwr Testia, Brian Hall, y bydd y cwmni newydd yng Nghasnewydd i bob pwrpas yn ysgol hyfforddi ar gyfer y sector cyfan.
"Byddwn yn dod â phobl mewn ar ddwy lefel," meddai, sef wrth adael ysgol a phobl sy'n dymuno cychwyn ar yrfa.
"Ond hefyd, byddwn yn dod â phobl i mewn o brifysgolion. Nhw fydd peirianwyr y dyfodol a fydd yn edrych ar y deunyddiau y byddwn yn eu defnyddio.
"Bydd pobl yn mynd drwy brentisiaeth cymeradwy. Byddant yn dod allan gyda chymhwyster sy'n cael ei gydnabod nid yn unig gennym ni ond gan y diwydiant yn gyffredinol."
Mae gan Testia safleoedd eisoes ar dir mawr Ewrop, ond hwn yw'r cyntaf yn y DU.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2012
- 13 Hydref 2011
- 8 Mai 2012
- 10 Ionawr 2012