Saethu Casnewydd: Angladd Caroline Parry
- Cyhoeddwyd

Cafodd angladd dynes a fu farw wedi iddi gael ei saethu yng Nghasnewydd ei gynnal.
Cafodd Caroline Parry, 46, ei darganfod wedi ei saethu ar Seabreeze Avenue ar Awst 8fed gyda'i gŵr Christopher, 49, oedd wedi cael ei saethu yn ei wyneb.
Cafodd angladd Mrs Parry ei gynnal yn Eglwys San Steffan yng Nghasnewydd.
Deellir bod Mr Parry mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Cafodd heddlu arfog eu galw i Seabreeze Avenue ar fore'r digwyddiad, wedi adroddiadau o saethu yn yr ardal.
Daethpwyd o hyd i Mrs Parry a'i gŵr yn y ffordd gydag anafiadau saethu.
Clywodd Crwner Gwent bod Mrs Parry wedi cael ei darganfod yn farw wedi iddi gael ei saethu yn ei chefn, a bod Mr Parry wedi ei ddarganfod gerllaw gydag anafiadau i'w wyneb.
Cafodd gwn a chetris eu darganfod hefyd.
Mae'r Crwner David Bowen wedi gohirio'r ymchwiliad i farwolaeth Mrs Parry am dri mis tra bod yr heddlu yn parhau i ymchwilio.
Yn y diwrnodau wedi'r digwyddiad, daeth yr heddlu o hyd i dri gwn oedd yn berchen i Mr Parry yn ei gartref yng Nghwmbrân.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i rôl Heddlu Gwent yn y misoedd cyn y saethu.
Straeon perthnasol
- 19 Awst 2013
- 13 Awst 2013
- 8 Awst 2013