Tŷ'r Cyffredin i drafod mesur lobïo
- Cyhoeddwyd

Mae rhai elusennau wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno rheolau newydd ynghylch lobïo yn San Steffan.
Bydd aelodau seneddol yn trafod y newidiadau ddydd Mawrth.
Dywed Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) eu bod yn credu y bydd y rheolau newydd yn rhwystro elusennau rhag mynegi barn ar gyfnodau allweddol wrth i'r pleidiau drafod polisïau.
Y nod yw gosod cyfyngiadau ar grwpiau lobïo yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol ar gyfer San Steffan.
Yn ôl llefarydd ar ran Downing Streeet ni fyddai'r Mesur Tryloywder yn effeithio ar elusennau sy'n ymgyrchu ar faterion polisi.
Byddai'r drefn newydd yn sefydlu cofrestr o grwpiau lobïo.
Yn ystod etholiad cyffredinol ni fyddai'r grwpiau ar y gofrestr yn cael gwario mwy na £390,000 ar lobïo.
Ymhlith yr elusennau sydd wedi mynegi pryder mae Oxfam, Y Lleng Prydeinig a Byddin yr Iachawdwriaeth.
'Creu Anhrefn'
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards yn honni y gallai'r newidiadau beryglu democratiaeth yng Nghymru.
Er bod y newidiadau yn ymwneud ag etholiadau San Steffan mae o'n credu y bydd yn creu dryswch gyda grwpiau lobïo yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
"Fe allai greu anhrefn, a bydd gofyn i'r Comisiwn Etholiadau farnu a yw grŵp penodol yn ymgyrchu ar fater yn ymwneud â'r Cynulliad neu San Steffan.
"Fe allai democratiaeth yng Nghymru ddioddef a bydd yna gyfyngu ar ymgyrchoedd grwpiau ac elusennau oherwydd etholiad San Steffan - ond ni fydd yr un rheolau yn dod i rym yn ystod etholiadau'r Cynulliad.
Un arall sy'n anhapus gyda'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yw AS Llafur Caerffili, Wayne David.
Mae Mr David - llefarydd diwygio gwleidyddol y Blaid Lafur - wedi disgrifio'r mesur fel un "draconaidd" a fyddai'n gallu atal elusennau yng Nghymru rhag ymgyrchu ar rai materion yn gyhoeddus.
Datgan diddordeb
"Mae'r llywodraeth yn gosod cyfyngiadau anferth ar allu mudiadau elusen i ymgyrchu."
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu mai pwrpas y mesur yw gwneud ymgyrchoedd sy'n cael eu cynnal gan fudiadau am resymau gwleidyddol yn gliriach, drwy orfodi mudiadau i ddatgan diddordeb a chyhoeddi gwariant.
Dywedodd Andrew Lansley, arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fod y newidiadau arfaethedig yn cyd-fynd a sefydlu côd ymddygiad gwirfoddol newydd ar gyfer y gyfundrefn lobïo.
"Nid ein bwriad yw rheoleiddio'r holl gyfundrefn lobio. Nid ydym yn bwriadu creu bwystfil biwrocrataidd."
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2013