Heddlu am holi 90 milwr am farwolaethau'r Bannau
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth tri milwr wrth gefn yn dilyn ymarferiad ar Fannau Brycheiniog am holi dros 90 o filwyr i ddarganfod beth ddigwyddodd.
Clywodd gwrandawiad i farwolaethau Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby y byddai'r ymchwiliad yn parhau am rhai wythnosau.
Mae 20 o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio ar yr achos, ac maent yn bwriadu siarad gyda'r 96 o filwyr oedd yn cymryd rhan yn yr ymarferiad ar 13 Gorffennaf.
Cadarnhaodd y crwner y byddai'r ymchwiliad i'w marwolaethau yn ystyried os cafodd hawliau dynol eu torri.
Ymestyn yr ymchwiliad
Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn ymarferiad yr SAS ar Fannau Brycheiniog wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5C.
Bu farw'r Isgorporal Craig Roberts, 24, yn ystod yr ymarferiad a chafodd Edward Maher a James Dunsby, y ddau yn 31, eu cludo i'r ysbyty ond bu farw'r ddau yn ddiweddarach.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd ymchwiliad ei lansio gan Heddlu Dyfed Powys a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Ddydd Mawrth, dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iwan Jones bod yr ymchwiliad wedi lledaenu.
"Wedi i ni adolygu rhan o'r dystiolaeth rydym wedi penderfynu ymestyn yr ymchwiliad.
"Rydym ni'n bwriadu cael datganiadau gan nifer sylweddol o filwyr, rhwng 94 a 96, gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd.
Mae'r crwner wedi gosod dyddiadau ar gyfer cwest ym mis Chwefror a Mawrth y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- 8 Awst 2013
- 24 Gorffennaf 2013