Gwesty adnabyddus ar werth
- Cyhoeddwyd

Mae gwesty adnabyddus yng Ngheredigion ar werth am £2.7 miliwn.
Cafodd Gwesty'r Harbwr yn Aberaeron ei agor fel gwesty 12 mlynedd yn ôl gan ŵr a gwraig oedd â dim profiad blaenorol yn y maes.
Mae Glyn a Menna Heulyn wedi penderfynu gwerthu'r gwesty, sy'n cyflogi 26 o weithwyr, er mwyn canolbwyntio ar fusnes arall yn Aberystwyth.
Agorodd Gwesty'r Harbwr ym Mai 2002.
Dywedodd Menna Heulyn fod y penderfyniad ar y pryd yn golygu newid byd iddi hi a'i gŵr.
Roedd Glyn Heulyn yn gweithio fel ymgynghorydd ariannol yn Aberystwyth, tra bod hi yn gweithio ym myd marchnata, gyda Bwrdd Datblygu Cymru ac S4C.
Roedd y ddau yn wreiddiol o'r ardal, ac yn awyddus i ddychwelyd a chreu rhywbeth o bwys.
'Gwireddu'r freuddwyd'
Dywedodd Glyn Heulyn fod y ddau ohonynt nawr yn edrych i wneud pethau gwahanol ond fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd.
"Rydym wedi gwireddu'r freuddwyd.
"O'r cychwyn cyntaf roeddem am gael staff lleol dwyieithog - staff gwybodus a serchog ac roedd rhan fawr o'r llwyddiant yn ddibynnol ar y staff.
"Ar y dechrau fe wnaethom benderfynu rhoi i bobl westy unigryw - gwesty boutique, roedd yn waith oedd yn golygu lot o egni."
Straeon perthnasol
- 23 Awst 2013