Pennaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn gadael

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd.

Bydd Aneurin Phillips yn gadael ddiwedd mis Ebrill y flwyddyn nesaf wedi mwy na 10 mlynedd yn y swydd.

"Rwyf wedi cymryd y penderfyniad hwn oherwydd fy mod yn dymuno dilyn diddordebau eraill. Nid yw wedi bod yn benderfyniad hawdd i'w gymryd, " meddai Mr Phillips, sy'n 55 oed

"Rwy'n dal i fwynhau gweithio i'r parc cenedlaethol ond credaf mai dyma'r amser iawn i drosglwyddo'r awenau i rywun arall i gymryd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ei flaen."

Dywedodd Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser cydweithio ag Aneurin.

"Mae'r prosiectau a'r rhaglenni rydym wedi ymgymryd â nhw wedi bod yn rhai hynod o bwysig, er enghraifft Hafod Eryri, pryniant Yr Ysgwrn, canolfan newydd Ogwen, cynllun pŵer dŵr Plas Tan-y-bwlch, yn ogystal â chyrraedd safon rhagoriaeth gwasanaeth i'r cwsmer."