Gwerthu safleoedd dwy gronfa ddŵr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae safleoedd dwy gronfa ddŵr yng Nghaerdydd wedi eu gwerthu i gwmni Celsa UK.

Cwmni WPD oedd perchnogion safleoedd cronfeydd Llanisien a Llys-faen ac fe gafodd cronfa Llanisien ei gwagio yn 2010 wrth i'r cwmni geisio caniatâd i godi 324 o dai ar y safle.

Ym mis Ebrill gwrthodwyd cais WPD gan y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant AC.

Mae Celsa UK yn berchen ar waith dur yn Nhremorfa ac yn defnyddio dŵr o gronfa Llys-faen yno.

Dywedodd Celsa UK y byddai prynu cronfa Llys-faen "yn help i warchod a chynnal y cyflenwad ac yn gam pwysig i sicrhau cynaliadwyedd y gwaith dur a'r gyflogaeth y mae'n ei darparu i'r dyfodol."