Gwahardd nyrs hospis plant rhag gweithio am chwe mis

  • Cyhoeddwyd

Mae nyrs hospis plant wedi ei gwahardd rhag gweithio am chwe mis oherwydd ei sylwadau sarhaus ar Facebook.

Roedd Allison Marie Hopton yn gweithio yn Nhŷ Hafan yn Sili ger Penarth, Bro Morgannwg.

Penderfynodd gwrandawiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod ei sylwadau amhriodol yn dwyn anfri ar yr alwedigaeth.

"Roedd y panel yn ymwybodol pa mor fregus oedd y rhai yr oedd hi'n gofal amdanyn nhw a'r angen am sensitifrwydd wrth ddelio â'r teuluoedd a'r cyhoedd," meddai llefarydd.

Roedd hi wedi gweithio yn yr hospis ers 2007 a chafodd ei diswyddo yn Hydref 2011.