Gwn peled: Arestio dau ddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent sy'n ymchwilio wedi i ergydion o wn peled gael eu tanio yn y ddinas nos Fawrth wedi arestio dau ddyn.

Cafodd yr heddlu eu galw am tua 11:30pm yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad ger tafarn Crosshands ar Ffordd Câs-Gwent.

Roedd dau gerbyd yn teithio ar hyd y ffordd. Cred yr heddlu bod peledi wedi cael eu tanio o gerbyd 1 at gerbyd 2 gan achosi i gerbyd 2 gael gwrthdrawiad.

Roedd tri pherson yn teithio yng ngherbyd 2 - dau ddyn ac un fenyw - ac fe gafodd y tri eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Mae gan y fenyw anaf i'w chefn ac un dyn fân anaf o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Cafodd y trydydd dyn anaf i'w ben o ganlyniad i danio peled o wn.

Mae'r tri bellach wedi cael mynd adref o'r ysbyty.

Mae plismyn yn awr yn ceisio dod o hyd i gerbyd 1, ac mae Ffordd Somerton yn dal ar gau ar hyn o bryd wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas: "Hoffwn dawelu pryderon trigolion Casnewydd drwy ddweud nad ydym yn credu mai digwyddiad ar hap oedd hwn, a bod y bobl oedd yn teithio yn y ddau gerbyd yn nabod ei gilydd.

"Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau cyn y digwyddiad ac yn holi llygad-dystion i ganfod beth yn union ddigwyddodd."

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yng nghyffiniau Ffordd Câs-Gwent adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 586 03/09/13.