Ymgyrch Pallial: Arestio dyn arall
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru yn y gorffennol wedi arestio dyn ar amheuaeth o "nifer o ymosodiadau anweddus".
Cafodd y dyn 59 oed ei arestio yng Nghaerhirfryn, Sir Gaerhirfryn ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiadau honedig wedi digwydd i ddau fachgen, y naill rhwng 1968 a 1973 pan oedd rhwng 11 ac 16 oed, a'r llall yn 1970 pan oedd yn naw mlwydd oed.
Dyma'r wythfed person i gael ei arestio gan yr heddlu mewn cysylltiad ag Ymgyrch Pallial, sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Hyd yn hyn mae un person wedi ei gyhuddo o 32 o droseddau rhywiol.
Straeon perthnasol
- 17 Rhagfyr 2012