Morgannwg yn dal eu tir
- Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg, yn enwedig Michael Hogan, fore campus ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caint yn Stadiwm Swalec.
Wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 158, fe ddechreuodd Caint ar 102 am 5 wiced.
Er i Daniel Bell-Drummond sgorio 78 i'r ymwelwyr, fe lwyddodd Hogan i gipio chwe wiced yn y batiad wrth i Gaint golli gweddill eu wicedi am gyfanswm o 175.
Cafwyd un belawd o ail fatiad Morgannwg cyn cinio, ond doedd dim sgor na wicedi. Mae gan Gaint felly fantais o 17 rhediad wedi batiad cyntaf y ddau dîm.
Sgor diweddaraf :-
Morgannwg (batiad cyntaf) = 158
(ail fatiad) = 0 am 0 wiced (1 belawd)
Caint (batiad cyntaf) = 175
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2013