Cais i brynu medal rygbi yn dyddio o 1893
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Gallai medal sy'n dyddio'n ôl i'r tro cyntaf i Gymru ennill y Goron Driphlyg yn 1893 fod ar ei ffordd yn ôl i Gymru, wedi 30 mlynedd ar ochr arall y byd.
Cafodd y fedal ei rhoi i Frank Hill, blaenwr o Gaerdydd a gafodd ei ddisgrifio fel "Sam Warburton ei oes", cyn iddo ddod i ddwylo ei deulu yn Awstralia.
Mae wedi ei gwneud o aur ac enamel, ac mae arbenigwyr yn credu iddi fod yn un o ddwy yn unig sy'n dal i fodoli heddiw.
Mae gan elusen y Welsh Sports Hall of Fame fis i godi'r arian i brynu'r fedal yn ôl.
Seren
Chwaraeodd Frank Hill 15 o weithiau dros Gymru, gan gynnwys chwe gêm fel capten y tîm.
Enillodd y fedal wedi i Gymru guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn 1893.
Cafodd y fedal ei phasio ymlaen i'w fab bedydd wedi ei farwolaeth yn 1927, yna i genhedlaeth nesaf y teulu, Mark Lanning, a symudodd i fyw yn Awstralia.
Cafodd y fedal ei chadw mewn drôr am 30 mlynedd, ond nawr mae Mr Lanning yn awyddus i'r trysor fynd i brynwr Cymreig.
Ni fydd y fedal ar werth i'r cyhoedd, yn hytrach mae gan y Welsh Sports Hall of Fame tan ddiwedd y mis i hel £3,000 i'w phrynu.
Dywedodd Richard Madley o gwmni arwerthwyr Dreweatts & Bloomsbury: "Rydw i mewn dau feddwl am y gwerthiant hwn.
"Fel rhywun sy'n mwynhau chwaraeon rydw i'n falch i weld bod Mr Lanning eisiau i'r fedal gael ei harddangos yng Nghymru.
"Ond fel ocsiwnïer rydw i wedi drysu am ei fod yn barod i werthu'r fedal i'r cartref cywir am ddim ond £3,000 pan fyddai'n debyg o gostio pum gwaith gymaint â hynny mewn ocsiwn agored."
'Sam Warburton ei oes'
Mae'r unig fedal arall o'r un cyfnod wedi ei benthyg i Undeb Rygbi Cymru gan gasglwr.
Roedd Frank Hill yn gyfreithiwr yng Nghaerdydd. Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf mewn gem gyfartal yn erbyn yr Alban yn 1885, a chwaraeodd dros 150 o weithiau i Gaerdydd.
"Roedd Frank Hill yn un o sêr cyntaf rygbi Cymru - yn debyg i Sam Warburton ei oes," meddai ymddiriedolwr yr Hall of Fame, Rob Cole.
"Roedd yn chwarae yn rheolaidd dros Gaerdydd pan yn 17 oed, a chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf dri diwrnod cyn ei ben blwydd yn 19."
Mae'r elusen wedi rhoi hanner y £3,000 mae Mr Lanning yn ei ofyn am y fedal, ac yn gobeithio perswadio Clwb Rygbi Caerdydd neu Undeb Rygbi Cymru i dalu'r gweddill.
"Mae pawb yn ymwybodol na fydd y cynnig hwn ar gael am byth, ac rydw i'n deall bod Undeb Rygbi Cymru wedi trafod y mater mewn cyfarfod y bwrdd felly bydd rhaid aros i weld.
"Rydw i'n obeithiol mwy na dim y gallwn ni brynu'r fedal, a'i harddangos un ai ym Mharc yr Arfau neu Stadiwm y Mileniwm.
"Cafodd Frank Hill ei ddisgrifio gan gyd-chwaraewyr fel y chwaraewr gorau i ddod o Gaerdydd, ac roedd yn gyfrifol am ddechrau oes ddisglair i rygbi Cymru.
"Felly, rydw i'n meddwl ei fod yn hynod bwysig i sicrhau'r fedal yma i'r cefnogwyr."