Ysbyty Tywysoges Cymru: Gweithredu wedi cwynion
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd yn dweud ei fod wedi cymryd "nifer sylweddol o gamau" yn dilyn cwynion am safonau gofal a diogelwch.
Bydd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn cwrdd yn ddiweddarach i drafod pryderon am Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.
Mae nifer o achosion diweddar yn ymwneud â chyfraddau marwolaeth uchel a honiadau bod nodiadau meddygol wedi eu ffugio wedi codi pryderon ynglŷn â gofal yn yr ysbyty.
Mae'r bwrdd wedi dweud bod gwaith i wella gwasanaethau wedi dechrau.
Cwynion
Mae'r bwrdd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yn Abertawe, Pen-y-bont, Castell-nedd a Phort Talbot, ond mae nifer o gwynion diweddar wedi amlygu pryderon.
Roedd galw am ymchwiliad wedi i'r Ombwdsmon ddarganfod bod claf oedrannus wedi ei hesgeuluso, ac mae tri nyrs wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i honiadau bod nodiadau wedi eu ffugio.
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod cyfradd marwolaeth yr ysbyty o fewn y pump uchaf o ysbytai Cymru, ac mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi dweud bod adran gŵynion y bwrdd iechyd yn hynod anhrefnus.
Mae adroddiad gafodd ei chyhoeddi gan y bwrdd iechyd cyn y cyfarfod yn dweud bod nifer o broblemau wedi gwella.
Dywedodd bod "arweinyddiaeth glinigol" dros yr haf wedi cyfrannu at lai o achosion o bryder ar bedair ward, dros y ddwy fis diwethaf.
Nyrsio
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod mwy o staff nyrsio wedi eu cyflogi, digon i sicrhau bod nyrs yn ymweld â phob claf tair gwaith ar bob shifft, a bod nyrs ychwanegol ar bob ward gydol y nos.
Bydd nyrsys uwch hefyd yn gwneud llai o waith papur, er mwyn gwario mwy o amser gyda chleifion.
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol dros dro y bwrdd, Dr Push Mangat: "Unwaith y daeth i'r amlwg bod nifer o broblemau yn yr ysbyty, cafodd y penderfyniad ei wneud i gydweithio er mwyn mynd i'r afael gyda'r problemau, yn lle gweithio yn unigol drwy drefn arferol y bwrdd.
"Ers i'r problemau yma gael eu hamlygu, mae nifer o gamau sylweddol wedi eu gweithredu."
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2013
- 29 Gorffennaf 2013
- 25 Gorffennaf 2013