Hogan yn serennu i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Glamorgan CCC
Mae Morgannwg wedi gorffen ail ddiwrnod eu gem yn erbyn Caint ar 237 am saith wiced.
Fore Iau, llwyddodd Michael Hogan i gymryd chwe wiced am 65 rhediad i'r tim cartref, gan gynnwys wiced Daniel Bell-Drummond oedd wedi sgorio 78 rhediad i'r ymwelwyr.
Llwyddodd Caint i gyrraedd 175 ar ddiwedd eu batiad cyntaf, 17 o flaen Morgannwg.
Gareth Rees oedd yn dechrau ail fatiad Morgannwg, a chyrhaeddodd 52 oddi ar 104 pel.
Sgoriodd Ben Wright 37 a Chris Cooke 35 i helpu Morgannwg i gyrraedd 237 erbyn diwedd y dydd, 220 rhediad ar y blaen.
Sgor diweddaraf :-
Morgannwg (batiad cyntaf) = 158
(ail fatiad) = 237 am 7 wiced (68 belawd)
Caint (batiad cyntaf) = 175
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2013