Pryder am gyffuriau yn y gweithle
- Cyhoeddwyd

Ni fyddai traean o gyflogwyr Cymru yn gallu synhwyro os ydy gweithwyr dan ddylanwad cyffuriau tra yn y gweithle.
Mae arolwg newydd yn dangos na fyddai'r rhan helaeth o gyflogwyr yn caniatáu i weithwyr fod dan ddylanwad cyffuriau, ond byddai un o bob tri ddim yn gallu synhwyro hynny.
Mewn cynhadledd ym Mhrifysgol De Cymru ddydd Iau, bydd defnydd cyffuriau yn y gweithle yn cael ei drafod, wrth i nifer cynyddol o droseddau yn ymwneud â'r cyffur mephedrone gael eu cofnodi yng Nghymru.
Un o bob tri
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod tua un o bob tri o bobl rhwng 16 a 24 oed yn defnyddio cyffuriau.
Mae'r arolwg diweddaraf yma gan gwmni ymchwil RMG yn dangos bod gan 80% o'r 200 o fusnesau gafodd eu holi bolisïau llym yn erbyn defnyddio cyffuriau yn y gweithle, a bod canran tebyg yn poeni y gall ddefnyddio cyffuriau y tu allan i'r gwaith effeithio ar berfformiad gweithwyr yn eu swyddi.
Ond roedd hefyd yn dangos na fyddai gan 35% o gyflogwyr ddigon o wybodaeth i synhwyro os oedd aelod o staff dan ddylanwad cyffur.
Cwmni Synergy Health, sy'n cynnal profion ar ran cwmniau, sydd wedi comisiynu'r ymchwil.
Dywedodd rheolwr technegol Synergy, Dr Phillip Kindred, bod gan 1 o bob 10 o weithwyr y maen nhw yn eu profi mewn gwahanol gwmnïau arwydd o gyffuriau yn eu sampl.
"Mae llawer o gwmnïau lle rydym ni wedi gwneud profion ac maen nhw wedi cael braw wrth weld maint y broblem," meddai.
"Dydy'r cwmnïau ond yn gweld bod ganddyn nhw broblem wrth wneud y profion."
Mephedrone
Un o'r cyffuriau sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ddiweddar yw mephedrone.
Mae adroddiad gan wasanaethau heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed-Powys yn dangos cynydd mawr mewn defnydd y cyffur yng Nghymru.
Roedd nifer yr achosion yn ymwneud â'r cyffur wedi dyblu rhwng misoedd Ebrill a Rhagfyr yn 2011 a'r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd y cyn swyddog troseddau difrifol, Martin Tavener, ei fod yn anodd i gyflogwyr wybod beth mae eu staff yn ei wneud y tu allan i'r gweithle.
"Heb os mae pobl yn mynd i weithio ac yn perfformio yn wael, a gallent beryglu eu cyd-weithwyr hefyd, yn enwedig mewn diwydiant lle mae diogelwch yn bwysig.
"Y prif bryder yw bod y cyffuriau yma yn hawdd iawn eu prynu rwan.
"Rydym yn gweld pobl mewn pob math o waith - gweithwyr llaw i bobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd - yn dod i ofyn am gymorth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2011