Estyniad £35m i garchar y Parc
- Cyhoeddwyd

Bydd Carchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ymestyn mewn buddsoddiad gwerth £35m.
Bydd 387 o leoedd ychwanegol i droseddwyr, a bydd 78 o swyddi newydd yn cael eu creu.
Yn ogystal â'r celloedd ychwanegol, fe fydd canolfan ymwelwyr newydd, gweithdy, cyfleusterau addysgol a maes parcio newydd.
Carchar y Parc, a agorodd yn 1997, yw un o garchardai mwya'r DU a'r unig garchar preifat yng Nghymru.
1,723
Bydd y carcharorion ychwanegol yn dechrau cyrraedd ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, gan godi cyfanswm y carcharorion yn y pen draw i 1,723.
Dywedodd David Morgan ar ran cwmni preifat G4S sy'n rheoli Carchar Y Parc: "Mae hyn yn gyfnod cyffrous i'r tîm yn y Parc.
"Rydym yn falch o gael ein dewis i gyflawni'r prosiect ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder".
Straeon perthnasol
- 28 Mawrth 2012
- 28 Chwefror 2012
- 27 Medi 2011
- 14 Rhagfyr 2010