Apêl am garcharor sydd wedi dianc
- Cyhoeddwyd

Darren Wilcox
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth am garcharor sydd wedi dianc o garchar Layhill yn Sir Gaerloyw.
Mae Darren John Wilcox, 33 oed, o ardal Caerdydd ac yn gyfarwydd â Phontypridd a'r Rhondda.
Disgrifir ef fel dyn gwyn tua 5'8" o daldra, o gorff cadarn a gyda gwallt byr brown a llygaid glas.
Mae hefyd wedi defnyddio'r enwau Jason Price, Darren Roberts a Damien Wilcox.
Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Wilcox alw Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 14 Gorffennaf 2010
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol