Cyhuddo pump o anrhefn dreisgar

  • Cyhoeddwyd
Car Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Daeth yr heddlu o hyd i wn aer, cyllyll a hanner cilo o ganabis ar y safle yn Stryd y Banc.

Mae pum dyn sydd wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o ddigwyddiad treisgar ar strydoedd Casnewydd yn ystod gŵyl y banc ym mis Awst wedi ymddangos gerbron llys.

Cafodd Ethan Brown, Steven Baker a Michael Attard, ill tri yn 20 oed ac o Gaerdydd, eu cadw yn y ddalfa, ynghyd â David Hopkins a Daniel Short, y ddau yn 27 oed o Fryste.

Maen nhw i gyd wedi eu cyhuddo o anrhefn dreisgar a bod â chyffuriau yn eu meddiant gyda bwriad o gyflenwi, ac mae gyrwyr y ddau gerbyd hefyd yn wynebu cyhuddiad o yrru'n beryglus.

Cafodd cais Mr Brown am fechnïaeth ei wrthod.

Dywedodd y Barnwr Tom Crowther QC bod y digwyddiad ar Stryd y Banc yng Nghasnewydd wedi bod yn "beryglus i'r cyhoedd".

Dywedodd bod y dynion o Gaerdydd a Bryste wedi cyfarfod yn y gwasanaethau ym Magwyr, yna fe wnaeth un o'r ceir ddilyn y llall cyn dod i stop yng Nghasnewydd.

Mae diffynnydd arall yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau a gafwyd yn ystod y digwyddiad.

Daeth yr heddlu o hyd i wn aer, cyllyll a hanner cilo o ganabis ar y safle yn Stryd y Banc.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol