Morgannwg yn colli eto
- Cyhoeddwyd

Collodd Morgannwg eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caint yn Stadiwm Swalec.
Dechreuodd Morgannwg y trydydd bore ar 237 am saith wiced, ond dim ond 21 rhediad y llwyddon nhw i ychwanegu wrth golli'r tair wiced olaf.
Er gwaetha'i gampau wrth fowlio, roedd Michael Hogan allan heb sgorio a dim ond tri sgoriodd Michael Reed.
Roedd hynny'n golygu mai 242 oedd angen ar yr ymwelwyr i ennill.
Er gwaethaf perfformiad gwych bowlwyr Morgannwg ddydd Mercher, batwyr yr ymwelwyr oedd y meistri yn yr ail fatiad.
Fe gipiodd Dean Cosker ddwy wiced, gydag un i Michael Reed, ond fe sgoriodd Sam Northeast 88 a Brendan Nash 70 heb fod allan wrth i Gaint gyrraedd y nod yn hawdd.
Mae Morgannwg felly wedi colli gêm gyda diwrnod i sbario am yr ail dro yn olynol.
Fe fyddan nhw nawr yn troi eu golygon at y gêm bwysig dros y penwythnos pan fydd Morgannwg yn herio Hampshire yn rownd gynderfynol cystadleuaeth y YB40.
Sgor terfynol:-
Morgannwg (batiad cyntaf) = 158
(ail fatiad) = 258
Caint (batiad cyntaf) = 175
(ail fatiad) = 242 am 3 wiced
Caint yn fuddugol o saith wiced.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2013