Helfa Gelf yn agor stiwdios i'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd
Nick Eames
Disgrifiad o’r llun,
Mae digwyddiad Helfa Gelf yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru am yr wythfed tro eleni.
Sophie Tilley
Disgrifiad o’r llun,
Pob penwythnos ym mis Medi mae artistiaid o ogledd Cymru yn agor eu drysau i'r cyhoedd.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael cipolwg ar ddulliau gwaith yr artistiaid.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r artistiaid sydd yn cymryd rhan yn cynnwys peintwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr gemwaith, gweithwyr coed, crochenwyr, gweithwyr mewn tecstil ac argraffwyr.
Disgrifiad o’r llun,
Eleni mae yna dros 300 o artistiaid yn cymryd rhan.
Disgrifiad o’r llun,
Yn ogystal ag agor eu stiwdios i'r cyhoedd bydd rhai artistiaid yn cynnal gweithdai yn rhad ac am ddim ar ddyddiau Sadwrn yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r stiwdios yn siroedd Gwynedd, Conwy, Fflint, Dinbych a Wrecsam. Mae rhai wedi'u codi'n benodol, eraill yn siediau mewn gerddi neu ystafelloedd cefn.
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y stiwdios ar agor o 11am - 5pm bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul ym mis Medi.