Heddlu eisiau sicrhau'r cyhoedd wedi achosion Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi sicrhau'r cyhoedd nad ydy'r achosion diweddar yn ymwneud â gynnau yng Nghasnewydd yn cynrychioli'r darlun ar draws y ddinas.
Daw'r neges wedi tri achos gwahanol yn yr ardal dros y mis diwethaf.
Mae un cynghorydd wedi dweud bod pobl eisiau gallu byw yn y ddinas heb ofn.
Ond mae Heddlu Gwent yn dweud bod y ddinas yn ddiogel a'u bod yn gweithredu i leihau troseddau.
Achosion treisgar
Mae nifer o achosion yn ymwneud ag arfau wedi digwydd yng Nghasnewydd dros yr wythnosau diwethaf.
Cafodd heddlu arfog eu galw i Seabreeze Avenue ar Awst 8fed, lle cafodd Caroline Parry, 46, a'i gŵr Christopher eu darganfod yn y stryd gydag anafiadau difrifol.
Bu farw Ms Parry o'i hanafiadau, tra bod Mr Parry yn parhau i fod yn yr ysbyty.
Ar 26 Awst cafodd heddlu arfog eu galw i'r ddinas eto, wedi adroddiadau bod gwn wedi ei weld mewn car. Cafodd pump o bobl eu harestio.
Digwyddodd yr achos diweddaraf ddydd Mawrth, pan gafodd dau berson eu harestio am droseddau yn ymwneud â chyffuriau. Roedd adroddiadau bod ergydion wedi eu saethu yn y digwyddiad, a chafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ddydd Iau.
Mae'r heddlu yn dweud nad oes cyswllt rhwng y digwyddiadau.
Creu ofn
Mae'r cynghorydd John Guy o ward Alway wedi dweud bod y digwyddiadau yn creu ofn.
"Yn amlwg mae pobl leol, a chynghorwyr yn pryderu, a dwi'n sicr bod y prif gwnstabl, y comisiynydd a'r uwch-arolygydd yn poeni ar hyn o bryd hefyd.
"Mae unrhyw achos sy'n ymwneud â gynnau yn mynd i achosi pryder i'r gymuned mewn sawl ffordd.
"Mae fy nghyd-weithwyr yn y cyngor yn gweithio yn galed i geisio gwella'r sefyllfa yng Nghasnewydd. Mae angen i bawb helpu i sicrhau bod pobl Casnewydd yn cael safon bywyd uchel.
"Dydyn nhw ddim eisiau'r ofn o gael digwyddiadau fel yma drwy'r amser."
Dywedodd y prif-arolygydd, Huw Nicholas: "Rydw i eisiau cadarnhau nad oes cyswllt rhwng yr achosion yma."
"Nid dyma'r darlun cyffredinol yng Nghasnewydd o gwbl.
"Mae Casnewydd yn ddinas ddiogel iawn, ac rydym ni'n gweithio'n galed i ddelio gyda throseddwyr. Rydw i eisiau sicrhau'r cyhoedd o hynny."
Straeon perthnasol
- 5 Medi 2013
- 5 Medi 2013
- 3 Medi 2013