Blaenafon yn rhoi her i Jeremy Paxman
- Cyhoeddwyd
The video invitation ends by asking: "Just answer the question, Jeremy, yes or no?"
Mae cyflwynydd rhaglen Newsnight y BBC, Jeremy Paxman wedi cael her i ymweld â thref yn ne Cymru, wedi iddo ddweud ei fod yn llai adnabyddus nag Ardal y Llynnoedd yn Lloegr.
Dywedodd Cyngor Torfaen eu bod wedi penderfynu creu fideo am dref Blaenafon, safle Treftadaeth y Byd, yn lle cwyno am sylwadau Mr Paxman.
Mae'r fideo yn gofyn i'r cyflwynydd ymweld â'r dref a rhai o'i atyniadau fel Pwll Mawr a'r amgueddfa lo.
Dywedodd Newsnight eu bod yn sicr bod Blaenafon yn "lle hyfryd i'w weld".
Daeth sylwadau Mr Paxman mewn trafodaeth am gais Ardal y Llynnoedd i gael eu hadnabod fel un o safleoedd Treftadaeth y Byd.
Dywedodd: "Mae Blaenafon yn un o'r safleoedd treftadaeth yma", cyn dweud bod pobl "wedi clywed llawer mwy am Ardal y Llynnoedd na Blaenafon."
Safle Treftadaeth
Cafodd y dref yng nghymoedd y de ei hadnabod fel safle treftadaeth yn 2000.
Penderfynodd UNESCO bod y dref yn haeddu'r teitl oherwydd pwysigrwydd de Cymru mewn allforio glo yn y 19eg ganrif.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen eu bod yn teimlo mai creu fideo oedd y ffordd orau i ateb Mr Paxman.
"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl Torfaen yn falch iawn o Flaenafon a buasem ni yn falch cynnig croeso cynnes i Jeremy yn ein tref."
Dywedodd llefarydd ar ran rhaglen Newsnight nad oedd Mr Paxman wedi datgan barn am yr un ardal, a'u bod yn sicr bod Blaenafon yn lle "hyfryd" i'w weld.