70,000 o bysgod wedi marw yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi bod 70,000 o bysgod wedi marw mewn achos o lygru yn Sir Fynwy ym mis Awst yn hytrach na'r amcangyfrif gwreiddiol o 1,000.

Cadarnhaodd Martin Gough o'r corff bod y nifer yn bennaf yn cynnwys pysgod bach fel brithyll, llyswennod a lampreiod ond nad oedd hynny'n lleihau difrifoldeb y digwyddiad.

Ychwanegodd bod ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r digwyddiad yn parhau.

Cafodd swyddogion eu galw i Nant Olwy ger Llan-soe yn Sir Fynwy ar Awst 28 yn dilyn adroddiadau gan aelod o'r cyhoedd.

Llwyddodd y swyddogion i atal tarddiad tebygol y llygredd, ond roedd lefelau isel o ocsigen yn y dŵr yn parhau i achosi trafferthion i'r pysgod.

Nid yw'r swyddogion yn agosach at ganfod tarddiad y llygredd.