Cytundeb yn diogelu swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae wyth o swyddi wedi eu diogelu yn Aberfan a Dowlais.
Mae cwmni o Bowys wedi ennill cytundeb pum mlynedd gyda Chyngor Merthyr Tudful i weithredu a rheoli canolfannau ailgylchu yn Aberfan a Dowlais.
Mae Grŵp Potter, yn y Trallwng, eisoes yn rheoli canolfannau yn y Trallwng, y Drenewydd a Machynlleth ar ran Cyngor Powys.
Mae hefyd yn rheoli gorsafoedd trosglwyddo gwastraff masnachol yn Aberhonddu a'r Trallwng.
Mae wyth o swyddi wedi eu diogelu yn Aberfan a Dowlais.
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2013
- 9 Mawrth 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol