Norofirws yn effeithio ar wardiau
- Cyhoeddwyd

Mae naw achos o'r salwch norofirws yn effeithio ar ddwy ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a hefyd ar dderbyniadau i'r uned ddamweiniau.
Yn ôl rheolwyr yn yr ysbyty, mae cyfyngiadau ar y wardiau dan sylw hefyd yn effeithio ar effeithiolrwydd wardiau eraill ac ar faint o bobl sy'n gallu cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfnodau prysur.
Mae adroddiadau o oedi yn yr uned ddamweiniau.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am yr ysbyty:
"Mae dwy ward lle mae cleifion wedi dangos symptomau o norofirws yn effeithio ar ddwy ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a hefyd ar dderbyniadau i'r uned ddamweiniau, felly er mwyn osgoi'r risg o heintio cleifion eraill does neb yn cael eu derbyn i'r ddwy ward am y tro.
"Does dim norofirws yn yr uned ddamweiniau, ond mae cyfyngiadau ar y ddwy ward dan sylw wedi arafu pethau, ac wedi effeithio ar gyflymder derbyn cleifion i rannau eraill mewn cyfnodau prysur.
"Hoffwn atgoffa ymwelwyr i beidio dod i'r ysbyty os ydyn nhw wedi diodde' o'r dolur rhydd neu chwydu yn y 48 awr flaenorol. Dylai cleifion sydd i fod i ddod i'r ysbyty ac sydd wedi dangos symptomau tebyg gysylltu â ni yn gyntaf am gyngor fel y gallwn wneud trefniadau priodol.
"Byddwn hefyd yn gofyn i ymwelwyr i ddilyn y rhybuddion yr ydym yn eu harddangos, ac unrhyw arweiniad gan y staff nyrsio er mwyn eu diogelwch eu hunain ac er mwyn atal unrhyw heintio pellach."
'Ailystyried'
Ond roedd Mabon ap Gwynfor o Gynghrair Iechyd Gogledd Cymru yn feirniadol o'r bwrdd iechyd gan ddweud:
"Os yw ysbytai yn fwy na 82% yn llawn, mae'n cael ei gydnabod bod heintiau fel norofirws yn fwy tebygol o ddigwydd.
"Mae arbenigwyr iechyd yn deall hyd felly mae'n syndod nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ystyried hyn yn eu hadolygiad diweddar sydd wedi gweld ysbytai cyffredinol yn yr ardal yn cyrraedd llawnder o 87%.
"Mae prysuro i gau ysbytai cymunedol heb gynllunio am lenwi'r bwlch wedi rhoi mwy o bwysau ar staff clinigol. Mae rheolwyr wedi gwneud camgymeriad ac mae angen iddyn nhw ailystyried eu cynlluniau."
Straeon perthnasol
- 3 Rhagfyr 2010
- 31 Rhagfyr 2009