Morgannwg: Ymestyn cytundeb Hogan

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Michael Hogan yn aros tan ddiwedd tymor 2016

Mae'r bowliwr cyflym o Awstralia Michael Hogan wedi arwyddo cytundeb newydd i'w gadw gyda Morgannwg tan ddiwedd tymor 2016.

Mae Hogan, 32 oed, o fewn cyrraedd i fod y bowliwr cyntaf o'r sir i gipio 100 o wicedi mewn un tymor.

Ar drothwy gêm Morgannwg yn erbyn Hampshire yn rownd gynderfynol cystadleuaeth y YB40 ddydd Sadwrn, fe gipiodd chwe wiced yn erbyn Caint yn Stadiwm Swalec yr wythnos hon.

Gyda 61 o wicedi, Hogan yw'r bowliwr gorau ym Mhencampwriaeth y Siroedd y tymor hwn, ac mae'n drydydd yn y tabl am fowliwr gorau'r gystadleuaeth 40 pelawd.

Dywedodd Hogan: "Rwy'n falch iawn o ymestyn fy nghytundeb gyda Morgannwg gan fod fy nheulu a finnau wedi mwynhau byw yng Nghymru yn fawr.

"Rwy'n gobeithio gwella eto'r tymor nesaf oherwydd mae tymor cyntaf bob tro'n gyfnod o ddysgu."