Ymosodiad ar drên: Heddlu'n apelio
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gofyn am gymorth i ddod o hyd i fenyw y maen nhw am ei holi wedi ymosodiad ar aelod o staff ar drên ger Conwy.
Maen nhw wedi cyhoeddi llun o'r fenyw oedd yn teithio ar y gwasanaeth rhwng Caergybi a Chaer am 9:45pm ar nos Sadwrn, Gorffennaf 22.
Dywedodd Cwnstabl Sean Braithwaite, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Rhwng Llanfair a Chonwy aeth casglwr tocynnau'r trên i siarad gyda chriw mawr o bobl oedd yn swnllyd, gan ofyn iddyn nhw ddistewi.
"Wrth i'r trên gyrraedd Conwy daeth menyw o'r criw at y casglwr tocynnau a dechrau dadlau gyda hi gan afael yn ei hwyneb wrth wneud hynny.
"Gadawodd y fenyw y trên yng Nghonwy ar ôl dod arno yn Llanfair.
"Roedd hwn yn brofiad cas a dianghenraid i aelod o staff oedd yn ceisio gwneud ei gwaith.
"Nid ydym yn fodlon diodde' cam-drin staff na chwsmeriaid, ac fe fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i erlyn unrhyw un sy'n rhan o ymddygiad annerbyniol fel hyn."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040 gan nodi'r cyfeirnod B4/WWA ar 05/09/13, neu yrru neges destun at 61016.
Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.