Iaith: 'Angen mwy o ddarpariaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae Menter Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad am ddefnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg.
Pan ddaeth Menter y Fro i ben yn Ionawr eleni, fe gafodd Menter Gaerdydd £30,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac arwain cynllun yn ymwneud â'r iaith ym Mro Morgannwg trwy gyd-weithio gyda phartneriaid lleol a'r awdurdod lleol.
Un o'r tasgau cyntaf oedd cynnal arolwg ar ffurf holiadur ynglŷn â'r defnydd o'r iaith yn yr ardal.
Daeth 539 o ymatebion i law mewn cyfnod o dair wythnos yn ystod mis Gorffennaf.
Pwrpas yr arolwg oedd asesu'r defnydd presennol o'r iaith Gymraeg ac asesu'r angen am fwy o wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn y Fro.
Dywed Menter Caerdydd fod y canlyniadau'n dangos gwendid yn y ddarpariaeth gymdeithasol cyfrwng Cymraeg, a bod galw am gynnydd.
Ymhlith y canfyddiadau mae:-
- 41.1% o blant mewn addysg Gymraeg ddim yn defnyddio'r Gymraeg o gwbl y tu allan i oriau ysgol;
- 82.1% o blant mewn addysg Gymraeg ddim yn mynychu unrhyw glybiau na gweithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu allan i oriau ysgol;
- 62.1% o blant mewn addysg Gymraeg yn mynychu clybiau neu weithgareddau Saesneg y tu allan i oriau ysgol;
- 91.7% yn awyddus i weld mwy o weithgareddau cyfrwng Cymraeg i deuluoedd ym Mro Morgannwg;
- 31.7% o'r ymatebwyr sydd wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn defnyddio'u Cymraeg o gwbl bellach.
'Cydweithio'
Dywedodd prif weithredwr Menter Caerdydd Sian Lewis:
"Mae'n holl bwysig fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ar lefel gymdeithasol yn eu cymuned er mwyn ffyniant yr iaith.
"Ein bwriad nawr fydd cydweithio gyda sefydliadau lleol a Chyngor y Fro er mwyn sicrhau gwelliant yn y ddarpariaeth Cymraeg sydd ar gynnig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Enillodd Menter Caerdydd dendor o £30,000 oddi wrthym eleni i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg newydd ym Mro Morgannwg. Rydym yn croesawu'r ffaith bod y Menter wedi cynnal asesiad o anghenion Cymraeg trigolion yr ardal, gan fydd hyn yn eu galluogi i deilwra'r ddarpariaeth yn effeithiol.
"Roedd meysydd fel argaeledd gweithgareddau iaith Gymraeg i blant a theuluoedd yn blaenllaw yn ein sgwrs genedlaethol ar yr iaith Gymraeg - Y Gynhadledd Fawr. Byddwn yn gwneud datganiad yn yr hydref ar ein hymateb i'r sgwrs genedlaethol hon."
Straeon perthnasol
- 1 Mai 2013
- 25 Ebrill 2013
- 1 Chwefror 2013