BBC: 'Camgymeriad' wrth roi tystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
BBCFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol fod swm y taliadau diswyddo wedi peryglu ymddiriedaeth y cyhoedd

Mae pennaeth adnoddau dynol y BBC, Lucy Adams, wedi dweud ei bod wedi gwneud camgymeriad wrth roi tystiolaeth i aelodau seneddol oedd yn ei holi am ordaliadau i uwch swyddogion oedd yn gadael eu swyddi.

Cafodd Ms Adams ei holi gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Gorffennaf ynghylch taliadau o £25m i 150 uwch swyddog.

Bryd hynny dywedodd nad oedd yn gwybod am e-bost ynghylch y taliadau, ond nawr fe ddywed ei bod hi yn ymwybodol am yr e-bost, ond nad oedd yn adnabod y disgrifiad o'r e-bost yn y gwrandawiad.

Daeth eglurhad Ms Adams' cyn i gyn-gyfarwyddwr cyffredinol y BBC Mark Thompson wneud honiadau am ei rôl hi yn y taliadau.

'Camarwain'

Mae Mr Thompson wedi cyhuddo Ymddiriedolaeth y BBC, sy'n gwarchod refeniw ffi'r drwydded a budd cyhoeddus y BBC, o gamarwain y senedd am daliadau diswyddo a wnaed i uwch swyddogion.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Lucy Adams yn gadael y BBC yn 2014

Dywedodd Mark Thompson bod ganddo negeseuon e-bost sy'n dangos bod aelodau o'r ymddiriedolaeth, gan gynnwys y cadeirydd, yr Arglwydd Patten ac un o uwch benaethiaid y BBC, wedi cymeradwyo'r taliadau.

Mae'r BBC wedi cael ei feirniadu am dalu £2m yn fwy nag oedd angen yn ôl cytundebau'r rhai oedd yn gadael.

Dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC bod yr honiadau yn rhyfedd gan wadu bod Aelodau Seneddol wedi cael eu camarwain.

Mewn llythyr at Aelodau Seneddol sy'n ymchwilio i'r mater, dywedodd Mr Thompson bod datganiadau gan gadeirydd yr ymddiriedolaeth yn anghywir, bod gwybodaeth wedi ei chadw rhag y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a bod y pennaeth adnoddau dynol wedi camarwain ynghylch ei rôl yn yr hyn a ddigwyddodd.

13,000 o eiriau

Cafodd y ddogfen 13,000 o eiriau ei pharatoi gan Mr Thompson cyn ei ymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, lle bydd disgwyl iddo ateb honiadau a wnaed ym mis Gorffennaf nad oedd wedi bod yn agored gyda'r ymddiriedolaeth ynghylch taliadau diswyddo i ddau uwch swyddog.

Mae'r ddogfen yn cynnwys nodyn briffio a baratowyd ar gyfer yr Arglwydd Patten yn amddiffyn maint y taliadau.

Disgrifiad o’r llun,
Gadawodd Mark Thompson y BBC yn 2012

Mae Mr Thompson hefyd yn honni na wnaeth yr ymddiriedolaeth ddatgelu ei rôl lawn yn y taliadau diswyddo i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Dywedodd y sylwebydd ar y cyfryngau, Steve Hewlett, bod y llythyr yn codi "cwestiynau difrifol" .

Dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC : "Rydym yn gwrthod yr awgrym bod yr Arglwydd Patten ac Anthony Fry wedi camarwain y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Yr ydym yn anghytuno'n llwyr â dadansoddiad Mark Thompson, sydd i raddau helaeth yn ddi-sail."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol