Mae'm golwg acw tua'r wlad

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Cyhoeddwyd
comments
Comments

Y penwythnos hwn fe fydd cylchgrawn Golwg yn dathlu ei chwarter canrif gyda gŵyl arbennig yn Llambed.

Dydw i ddim yn ddyn i 'plygio' fy hun ond os ydych chi eisiau gwylio fi'n holi Dylan Iorwerth ynghylch hanes y cylchgrawn fe fydd hynny digwydd am dri ddydd Sadwrn!

Dydw i ddim yn mynd i gynnwys 'sbwylars' yn fan hyn chwaith ond teg yw dweud nad ar chwarae bach y mae cynnal wythnosolyn Cymraeg am bum mlynedd ar hugain.

I'r rheiny sy'n meddwl bod y cylchgrawn yn morio ar fôr o grantiau, mae'n werth cofio bod Golwg yn derbyn tua'r un cymhorthdal â Barn a phe na bai'r cyfan yn cael ei redeg fel busnes digon trwyn-galed fe fyddai'r hwch wedi mynd drwy'r siop flynyddoedd yn ôl.

Mae'n werth nodi hefyd fod y cylchgrawn wedi cynnal ei gylchrediad ar draws y blynyddoedd.

Dyw'r niferoedd ddim yn enfawr ond dydyn nhw ddim wedi gostwng chwaith.

O gofio cymaint o'r "hen Gymry llengar" sydd wedi ein gadael ers 1988 mae hynny'n dipyn o gamp.

Cofiwch, mae pobl wedi bod yn cwyno am ddiflaniad y Cymry llengar ers dyddiau Glanffrwd ac o bosib cyn hynny!

Ond sut mae modd meithrin darllenwyr y dyfodol? Dyma un awgrym o'r gorffennol i chi.

Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd roedd hi'n ofynnol i ddisgyblion iau ddarllen o leiaf un wythnosolyn Cymraeg bob wythnos naill ai trwy brynu un neu yn y llyfrgell. Fe fyddai eu cynnwys yn cael eu trafod yn un o'r gwersi Cymraeg

Fy nyleit personol i oedd chwilio am y papurau mwyaf obsciwar i'w trafod. Y Llan, Y Dydd, Y Tyst, Y Cyfnod, Y Goleuad, Herald Môn - es i drwyddyn nhw i gyd! Nid bod ots gan yr athrawes. Yr un oedd y canlyniad - gwella sgiliau darllen, cyfathrebu a dinasyddiaeth. Efallai'n wir taw dyna'r rheswm rwy'n ennill fy nghrwstyn trwy newyddiadura!

Oes 'na le i rywbeth felly yn y cwricwlwm y dyddiau hyn? Dyw e ddim yn syniad mor wael â hynny.