Llafur: Angen datganoli trethi llai

  • Cyhoeddwyd
treth stamp
Disgrifiad o’r llun,
Mae treth stamp ar werthiant tai yn un y dylid ei datganoli, medd Rachel Reeves

Dylai Llywodraeth y DU ddatganoli casglu trethi "llai" i Lywodraeth Cymru mor fuan â phosib yn ôl un o lefarwyr blaenllaw y blaid Lafur.

Dywedodd Rachel Reeves, sy'n cysgodi Prif Ysgrifennydd y Trysorlys o fewn yr wrthblaid yn San Steffan, y dylai pwerau dros dreth stamp gael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd ar unwaith.

Mae comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU wedi argymell caniatàu i Lywodraeth Cymru fenthyg er mwyn buddsoddi.

Penderfynodd gweinidogion yn Llundain gynnal ymgynghoriad ar y mater - sy'n dod i ben ddydd Mawrth - ac nid ydynt wedi ymateb yn ffurfiol i'r argymhelliad eto.

Mae Llywodraeth Cymru am fenthyg arian i gyllido cynlluniau fel ffordd liniaru traffordd yr M4 ger Casnewydd. Ond mae rhai arbenigwyr yn credu y byddai benthyg ar y raddfa hynny yn golygu bod angen datganoli treth incwm hefyd - newid a fyddai'n golygu refferendwm.

'Cefnogaeth trawsbleidiol'

Yn ystod ymweliad â de Cymru, dywedodd Ms Reeves: "Rydym ni am i benderfyniad gael ei wneud.

"Roedd penderfyniad i fod i gael ei wneud yn y gwanwyn, ac wedyn fe gafodd ei ohirio.

"Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol i hyn yng Nghymru, mae ganddo gefnogaeth y CBI yng Nghymru ac ar draws y gymuned fusnes, ac mae'r Llywodraeth nawr yn ymgynghori eto.

"Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn penderfynu datganoli'r trethi llai i Lywodraeth Cymru, yn enwedig treth dir y doll stamp, a rhoi'r pwerau benthyca yna i Lywodraeth Cymru fel eu bod yn gallu buddsoddi yn yr isadeiledd ry'n ni ei angen yma yng Nghymru, yn enwedig ffordd liniaru'r M4."

Pan ofynnwyd iddi a fyddai trethi "llai" yn creu digon o refeniw i gyllido digon o fenthyca ar gyfer cost £1 biliwn agor ffordd liniaru'r M4, dywedodd:

"Mae angen refferendwm ar gyfer treth incwm - rydyn ni angen gweithredu nawr, nid ar ryw adeg yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol