Gwrthdrawiad: Pedwar wedi'u hanafu
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi eu hanafu - dau yn ddifrifol - yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Fynwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A466 ffordd gyswllt Dyffryn Gwy ger Cas-gwent am 4:37pm ddydd Gwener.
Mae'r gwasanaeth dân, yr heddlu, ambiwlans ac ambiwlans awyr ar y safle.
Oherwydd y gwrthdrawiad bu Pont Hafren ar gau am gyfnod, ond mae hi bellach wedi ailagor, ond fe fydd yr A466 rhwng Newhouse a Chas-gwent ynghau am beth amser i ddod, ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Y cyngor i yrwyr yw osgoi'r ardal yn llwyr os yw hynny'n bosibl.