Pro12: Gemau nos Wener
- Cyhoeddwyd

Scarlets 19-42 Leinster
Roedd perfformiad cryf gan Leinster yn yr ail hanner yn ormod i'r Scarlets, wrth i faswr yr ymwelwyr Jimmy Gopperth sgorio 22 pwynt yn ei gêm gyntaf i'r pencampwyr.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gyntaf drwy droed Steven Shingler a chais gan Rob McCusker.
Ond rhoddodd geisiau gan Martin Moore a Jordi Murphy, a chiciau gan Gopperth y fantais i Leinster.
Sgoriodd Darren Hudson, Dave Kearney a Gopperth ei hun i'r ymwelwyr i sicrhau pwynt bonws hefyd.
Dywedodd rheolwr y Scarlets, Simon Easterby bod ei dim wedi rhoi gormod o'r bêl i Leinster yn yr ail hanner.
"Fe wnaethon ni ddim canolbwyntio, a rhoi gormod o giciau cosb iddyn nhw, ac maen anodd derbyn oherwydd roedden ni'n teimlo mewn rheolaeth yn yr hanner cyntaf."
Glasgow 22-15 Gleision
Mae Glasgow wedi dechrau eu tymor gyda buddugoliaeth dros y Gleision.
Mewn gêm flêr yn y glaw, maswyr y timau sgoriodd y pwyntiau i gyd yn yr hanner cyntaf.
Wedi mynd i'r egwyl yn colli o 12-6, daeth y Gleision yn ôl diolch i gicio Rhys Patchell.
Tommy Seymour sgoriodd unig gais y gêm, gan groesi'r llinell yn y gornel yn yr ail hanner.
Roedd mewnwr y Gleision Lloyd Williams wedi croesi'r llinell ei hun, ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd wedi cael y bêl i lawr.
Dreigiau 15 - 8 Ulster
Y Dreigiau oedd yr unig dîm o Gymru i ennill ar noson gyntaf y Pro12 nos Wener.
Daeth cais gan Roger Wilson a chic gosb gan Paddy jackson i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ond llwyddodd Jason Tovey gyda gôl adlam a chic gosb, a tair cic yn yr ail hanner i roi buddugoliaeth i'r Dreigiau yn Rodney Parade.
Dyma'r tro cyntaf i Ulster fethu ac ennill eu gêm gyntaf mewn pedwar tymor.
Dywedodd rheolwr Ulster, Mark Anscombe: "Chwaraeodd y Dreigiau gydag ysbryd, rhywbeth doedd gennym ni ddim.
"Doeddwn i ddim yn meddwl ein bod ni wedi ymosod yn dda o gwbl."
Straeon perthnasol
- 5 Medi 2013