Noson arbennig i gyn longwr

  • Cyhoeddwyd
John FarrowFfynhonnell y llun, Sarah Moore
Disgrifiad o’r llun,
Roedd John Farrow yn 20 oed pan gafodd HMS Trinidad ei suddo

Bydd yr unig aelod sy'n dal yn fyw o griw llong gafodd ei suddo yn yr Ail Ryfel Byd yn bresennol mewn cyngerdd arbennig yn Llundain nos Sadwrn.

Nawr yn 92 oed, roedd John Farrow o sir Benfro yn 20 pan gafodd HMS Trinidad ei suddo yn 1942.

Bydd y cyngerdd - Noson olaf y Proms yn Neuadd Albert - yn cynnwys cerddoriaeth gorymdaith a gafodd ei chyfansoddi gan George Lloyd, oedd hefyd yn gwasanaethu ar y llong.

Roedd HMS Trinidad yn cludo nwyddau i Rwsia a bu mewn sawl brwydr cyn cael ei suddo.

Roedd John "Jack" Farrow o Ddinbych-y-pysgod yn fagnelwr ar y llong, yn gyfrifol am danio'r gynnau mawr.

Arctig

Fe wnaeth Mr Farrow wirfoddoli i ymuno a'r llynges yn Medi 1939 pan ddechreuodd y rhyfel.

Roedd y llong oedd yn rhan o gonfoi'r Arctig oedd yn cludo nwyddau i Rwsia.

Mae Mr Farrow yn dal i gofio'r ddwy frwydr cyn i'r llong gael ei suddo.

"Roedd hi'n rhewi - yn rhewi'n gorn. Roedd y tywydd yn ofnadwy, hyd yn oed ar ôl gwisg pedwar par o sanau.

"Rwy'n cofio gweld y peth gwyn yma yn dod tuag at y llong - a dyma'r capten yn gweiddi un o'n torpidos ni yw e.

"Yna fe darodd y Llong."

Bu farw tua 17 yn y ffrwydrad - un o'r rhai wnaeth lwyddo i ddianc o i long arall oedd y cyfansoddwr George Lloyd.

Ni chafodd y Trinidad ei suddo yn yr ymosodiad ac fe wnaeth Farrow aros ar ei bwrdd wrth iddi lwyddo i gyrraedd Murmansk.

Ar ôl gwaith atgyweirio aeth y llong yn ôl i'r môr - dim ond iddi gael ei thargedu o'r awyr gan fomwyr yr Almaen.

"Roedd yr holl long ar dân, yn wenfflam," meddai Mr Farrow sydd wedi gweithio fel saer dodrefn yn Ninbych-y-pysgod am 60 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, IWM
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd HMS Trinidad ei suddo ym Mai 1942

"Na'i byth anghofio gorfod neidio 10 troedfedd o'r Trinidad i long rhyfel oedd wedi dod i'n hachub.

"Pe bai chi'n syrthio i'r dŵr yna byddwch yn farw o fewn dau funud oherwydd yr oerfel."

Dywedodd un cof sydd ganddo yw o'r arian oedd yn ei gist ar y llong - £60 yr oedd wedi bod yn cynilo ar gyfer ei briodas.

Mae'n debyg byddai'r arian werth tua £2,400 heddiw.

"Roedd y llong yn llosgi, ac ro ni'n meddwl am y £60.

"Fe wnes i feddwl am fynd i'w nôl - ond pe byddwn wedi gwneud hynny byddwn i ddim yma heddiw."

Dywedodd ei fod edrych ymlaen at glywed y gerddoriaeth yn cael ei chwarae yn y Proms yn Neuadd Albert nos Sadwrn.