Rhybudd o lifogydd posib mewn rahnnau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhannau o ogledd orllewin a de orllewin Cymru.
Daw'r rhybudd oddi wrth asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru - y corff sydd nawr yn gyfrifol am ddyletswyddau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Mae darogan rhwng 25-50 mm o law dydd Sadwrn.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai amodau gyrru fod yn anodd mewn rhai ardaloedd.
Mae Swyddfa'r Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn - rhybudd byddwch yn ymwybodol - ar gyfer rhai ardaloedd.
Mae yn effeithio llawer o ogledd Cymru, de orllewin Cymru ac arfordir y canolbarth.
Bydd y rhybudd yn effeithio siroedd: Abertawe, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Mond, Penfro, Powys a Wrecsam.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol