Gwaith atgyweirio yn achosi peth oedi
- Cyhoeddwyd

Fe allai gwaith cynnal a chadw olygu oedi i deithwyr trên yng Nghaerdydd a rhwydwaith y cymoedd dros y penwythnos.
Dywed Network Rail fod angen rhoi offer newydd ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Rhymni, a Chaerdydd a Radur, i'r gogledd o'r brifddinas.
Bydd y gwaith yn golygu newid amseroedd rhai o Drenau Arriva Cymru.
Hefyd bydd bysiau neu gerbydau yn cael eu defnyddio yn lle trenau mewn rhai mannau.
Dywedodd Lynne Milligan, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid gyda Trenau Arriva Cymru: "Rydym wedi bod yn cynllunio yn ofalus er mwyn sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn amharu cyn lleied a phosib ar drefniadau cwsmeriaid.
"Byddwn yn cynghori teithwyr i ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu siwrne, a hoffwn ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.
Ychwanegodd y byddai mwy o staff yn gweithio yn y gorsafoedd er mwyn helpu teithwyr.