Morgannwg yn curo Hampshire

  • Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi sicrhau ymweliad i Lords ar gyfer ffeinal cystadleuaeth y YB40.

Fe wnaeth yr ymwelwyr sicrhau buddugoliaeth o 33 o rediadau yn y rownd gynderfynol yn erbyn Hampshire yn Southampton.

Roedd hi'n ddiwedd cyffrous i'r gêm ar ôl i Forgannwg fatio'n gyntaf gan osod nod o 234.

Dechrau digon araf gafodd Morgannwg i'r gêm.

Roedd y Cymry wedi cyrraedd 99-3 ar ôl i Christopher Cooke fod allan - coes o flaen wiced - i Dannby Biggs.

Cyfrannodd Cooke 37 i gyfanswm Morgannwg yn erbyn deiliaid y YB40.

Ond yn raddol cafodd batwyr Morgannwg reolaeth ar fowlwyr Hampshire.

Wiced gyntaf

Fe wnaeth partneriaeth James Allenby 74 a Ben Wright 47 sicrhau fod sgôr Morgannwg yn cyrraedd 234 am bedair wiced.

Fe gyfrannodd Allbenby a Wright 84, gyda 57 o'r rhediadau yna yn dod yn y pedair pelawd olaf.

Roedd Hampshire felly yn cwrso sgôr o 234 - bron i chwe rhediad bob pelawd.

Bu'n rhaid aros tan y 10fed pelawd cyn i Forgannwg gipio eu wiced gyntaf.

Cafodd James Vince ei fowlio gan Allenby ar ôl sgorio 20 o rediadau, Hampshire ar y pryd yn 46 am un.

Yn raddol daeth Hampshire yn ôl i'r gêm ,gyda phartneriaeth dda rhwng Adams ac Ervine yn sicrhau diweddglo cyffrous.

Ond er gwaetha eu hymdrechion roedd Morgannwg yn maesu yn grefftus.

Cafodd Adams ei ddal ar ôl sgorio 59 o rediadau, Hamspshire 159 am bedair wiced ar ôl 33 o belawdau.

Yna gyda Hampshire yn 177 am bedair wiced fe ddaliwyd Ervine gan Hogan.

Gorffennodd y tim cartref 202 am wyth wiced.